Mae’r holiadur hwn ar gyfer sefydliadau sy’n gweithio gyda gofalwyr yng Nghymru. Os ydych chi’n unigolyn sy’n gofalu cwblhewch yr arolwg ar gyfer gofalwyr yn lle:
https://forms.gle/CMwE4jrSfnqhTBQR6Cyfarwyddiadau
Ceir 6 adran – mae’r adran gyntaf yn cynnwys cwestiynau gorfodol, mae pob adran arall yn ddewisol felly gallwch ateb yr hyn a fynnoch a neidio dros yr hyn a fynnoch. Dylech fod yn gallu cwblhau’r holiadur mewn llai na 10 munud, neu gymryd rhagor o amser os hoffech ddweud mwy wrthym.
Pam ydyn ni’n gofyn y cwestiynau hyn?
Rydyn ni’n gwybod fod ymweld â’n hamgueddfeydd ac ymuno â gweithgareddau yn gallu helpu pobl sy’n teimlo wedi eu hynysu neu o dan bwysau. Rydyn ni’n gwybod fod sawl gofalwr yn teimlo felly ar adegau. Rydyn ni eisiau ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i ofalwyr i ymweld â ni a sicrhau bod gennym weithgareddau sydd wedi’u cynllunio o amgylch yr hyn y mae gofalwyr ei eisiau.
Beth ydyn ni’n bwriadu ei wneud?
Bydd hyn yn dibynnu ar yr ymatebion yr ydym yn eu derbyn i’r holiadur. Ar hyn o bryd rydym yn ystyried:
- Diwrnodau gofalwyr mewn amgueddfa lle y bydd cymorth ychwanegol, gweithgareddau arbennig, a chyfle i gwrdd â gofalwyr eraill. Rydyn ni’n chwilio am gymysgedd o weithgareddau, rhai y gall gofalwyr fynychu ar eu pen eu hunain ac eraill y gallant eu mynychu gyda’r person y maen nhw’n gofalu amdanynt.
- Ei gwneud hi’n haws i ofalwyr ymuno â gweithgareddau gwirfoddoli neu gymunedol parhaus ac i fod yn rhan o brojectau a thimau parhaus.
Nid ydym yn arbenigo mewn darparu gofal, felly nid ydym yn mynd i allu gofalu am rywun yr ydych chi’n gofalu amdanynt na darparu unrhyw fath o ofal personol.
Diolch i chi am gymryd yr amser i roi eich barn i ni.
Amgueddfa Cymru