Arolwg Gofalwyr: Unigolion
Mae’r holiadur hwn ar gyfer unrhyw un sy’n byw yng Nghymru ac yn ofalwr neu wedi bod yn ofalwr yn y gorffennol.
Cyfarwyddiadau
Ceir 6 adran – mae’r adran gyntaf yn cynnwys cwestiynau gorfodol, mae pob adran arall yn ddewisol felly gallwch ateb yr hyn a fynnoch a neidio dros yr hyn a fynnoch. Dylech fod yn gallu cwblhau’r holiadur mewn llai na 10 munud, neu gymryd rhagor o amser os hoffech ddweud mwy wrthym.
Pam ydyn ni’n gofyn y cwestiynau hyn?
Rydyn ni’n gwybod fod ymweld â’n hamgueddfeydd ac ymuno â gweithgareddau yn gallu helpu pobl sy’n teimlo wedi eu hynysu neu o dan bwysau. Rydyn ni’n gwybod fod sawl gofalwr yn teimlo felly ar adegau. Rydyn ni eisiau sicrhau ei bod hi mor hawdd â phosib i chi ymweld â ni a bod gennym weithgareddau sydd wedi’u cynllunio o amgylch yr hyn rydych chi ei eisiau.
Beth ydyn ni’n bwriadu ei wneud?
Bydd hyn yn dibynnu ar yr ymatebion yr ydym yn eu derbyn i’r holiadur. Ar hyn o bryd rydym yn ystyried:
- Diwrnodau gofalwyr mewn amgueddfa lle y bydd cymorth ychwanegol, gweithgareddau arbennig, a chyfle i gwrdd â gofalwyr eraill. Rydym yn ystyried cymysgedd o weithgareddau, rhai y gallwch fynd iddyn nhw ar eich pen eich hunain ac eraill gyda’r person yr ydych yn gofalu amdanynt.
- Ei gwneud hi’n haws i ofalwyr ymuno â gweithgareddau gwirfoddoli neu gymunedol parhaus ac i fod yn rhan o brojectau a thimau parhaus.
Nid ydym yn arbenigo mewn darparu gofal, felly nid ydym yn mynd i allu gofalu am rywun yr ydych chi’n gofalu amdanynt na darparu unrhyw fath o ofal personol.
Diolch i chi am gymryd yr amser i roi eich barn i ni.
Amgueddfa Cymru