Arolwg cyn-arolygiad: disgyblion (cynradd)
Rho dy farn i ni am dy ysgol.

Darllena bob brawddeg a thicio’r blwch sy'n disgrifio sut rwyt ti’n teimlo.. Does dim unrhyw
atebion cywir nac anghywir. Ar gyfer rhai cwestiynau, byddi di’n cael cyfle i ddweud pam rwyt ti
wedi dewis yr ateb hwnnw, os wyt ti eisiau.

Meddylia am dy brofiadau dy hun ac nid am brofiad dy ffrindiau. Bydd yn onest os gweli di’n dda.
Mae dy farn yn bwysig. Byddwn ni’n darllen dy atebion ac yn eu defnyddio i ddysgu mwy am yr
ysgol. Efallai y byddwn ni hefyd yn defnyddio'r arolygon hyn i'n helpu i ddeall beth yw barn
disgyblion am ysgolion ar draws Cymru.

Fydd dim enwau yn yr arolwg yma. Fyddwn ni ddim yn gofyn i ti roi dy enw. Mae hyn yn golygu
bod dy atebion i gyd yn gyfrinachol.

• Bydd arolygwyr Estyn yn darllen dy atebion
• Fydd arolygwyr Estyn byth yn dweud wrth neb yn dy ysgol na neb arall y tu allan i Estyn
beth rwyt ti’n ei ddweud

Yr unig amser y gallen ni rannu gwybodaeth â phobl eraill yw os ydyn ni’n poeni am ddiogelwch
disgyblion.
Sign in to Google to save your progress. Learn more
1. Grŵp blwyddyn *
2. Rydw i'n mwynhau'r ysgol *
3. Rydw i'n teimlo'n ddiogel yn yr ysgol *
4. Mae plant eraill yn ymddwyn yn dda yn fy nosbarth *
5. Mae plant eraill yn ymddwyn yn dda yn fystod amser egwyl ac amser cinio *
6. Wyt ti'n teimlo dy fod di'n cael dy fwlio yn yr ysgol? *
7. Rydw i'n meddwl bod y gwaith yn y mwyafrif o wersi...
*
8. Rydw i'n credu bod fy ngwersi’n ddiddorol
*
9. Mae fy ysgol yn fy helpu i drin pawb yn deg
*
10. Rydw i'n cael fy annog i gymryd rhan mewn gweithgareddau ysgol y tu allan i wersi, fel clybiau, chwaraeon, cerddoriaeth neu gelf
*
11. Mae staff yn gofyn am ein barn am yr ysgol
*
12. Mae arweinwyr ysgol yn gwrando ar ein syniadau ac weithiau'n newid pethau pan fyddwn ni’n gofyn amdanyn nhw
*
13. Fyddet ti'n argymell yr ysgol yma i rywun arall?
*
14. Defnyddia’r lle isod i ddweud unrhyw beth arall wrthyn ni am dy ysgol
Submit
Clear form
Never submit passwords through Google Forms.
This form was created inside of Ysgol Gymraeg Gilfach Fargoed. Report Abuse