Cynhelir y nawfed gynhadledd flynyddol i fyfyrwyr astudiaethau Celtaidd rhwng y 22ain hyd at y 24ain o Hydref 2021. Cynhelir y gynhadledd ar-lein, am y rhan fwyaf, oherwydd y pandemig COVID-19 cyfredol, ond bydd rhai cyflwyniadau ac elfennau byw yn digwydd yng Ngholeg Prifysgol Dulyn (UCD). Mae'r holl drefniadau'n amodol ar newid yn ôl cyngor yr awdurdodau iechyd cyhoeddus.
Rydym yn croesawu cyflwyniadau yn Saesneg ac ym mhob iaith Geltaidd. Derbynnir papurau o fyfyrwyr cyfredol a graddedigion diweddar ar unrhyw bwnc o Astudiaethau Celtaidd, yn ogystal ag un bwnc sy'n gysylltiedig â'r ieithoedd, pobloedd, llenyddiaethau, hanesion a/neu ddiwylliannau Celtaidd. Dylai papurau barhau 15-20 munud.
Dylid cyflwyno crynodebau - o ddim mwy na 200 gair - isod, erbyn dydd Gwener, 27ain o Awst 2021.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni yn
celticstudents.conference@gmail.com.