Cytundeb: Ysgol Syr Thomas Jones Microsoft Teams o fewn HWB
Mae athrawon yr ysgol yn cytuno i:
• Drafod rolau a chyfrifoldebau gyda'r dysgwyr
• Sicrhau bod y gwersi yn dilyn amserlen yr ysgol, ac os bydd unrhyw newid, eu bod yn cael eu rhannu gyda
disgyblion e.e os yw'r gwersi'n cael eu canslo neu ail-drefnu
• Fod yn ymwybodol o’r holl weithdrefnau a pholisïau perthnasol diweddaraf, gan gynnwys polisïau
diogelu data, diogelu a diogelwch ar-lein
• Sicrhau bod gwersi byw yn cael ei gau gan staff i osgoi sefyllfa un-i-un drwy ddatgysylltu pawb yn Teams ar
ddiwedd y wers
Mae'r dysgwyr yn cytuno i:
• Gadw safonau ymddygiad mewn gwers fyw ar Teams i fod yr un fath ag ymddygiad ddisgwyliedig yn y
dosbarth
• Fod yn brydlon ar gyfer pob gwers
• Drefnu ffeiliau / nodiadau perthnasol ar gyfer pob gwers ymlaen llaw
• Sirchau os oes angen cwblhau gwaith cyn y wers, bod y gwaith hwnnw wedi ei gyflawni cyn i'r wers ar-lein
gychwyn
Wneud yn siŵr bod offer fel gwefrydd (power adaptor) a gliniadur yn barod cyn i’r wers gychwyn
• Ddangos parch at bawb yn yr ystafell ddosbarth ar-lein
• Wisgo’n addas ar gyfer pob dosbarth, gan ddangos parch at bobl eraill
• Mengofnodi / logio mewn o lleoliad addas
• Geisio cyfrannu i'r wers mewn ffordd gadarnhaol yn unol â chanllawiau’r athro
• Beidio â thorri ar draws a gweiddi allan ar unrhyw adeg (llaw electroneg i fyny)
• Beidio recordio na rhannu lluniau o’r wers / dosbarth ar lein.