Mae gennym ddiddordeb yn eich barn am eich ysgol fel aelod o staff. Darllenwch bob datganiad
gan ystyried eich profiadau eich hun a thiciwch y blwch sy'n gweddu orau i'ch barn chi. Ar gyfer
rhai cwestiynau, cewch gyfle i egluro pam eich bod wedi dewis yr ateb hwnnw, os ydych chi
eisiau.
Mae eich barn yn bwysig i ni. Mae eich atebion chi ac atebion eraill yn helpu i lywio'r broses hunan-arfarnu.
Mae’r arolwg yn ddienw. Mae eich ymatebion yn gyfrinachol ac nid ydym yn gofyn am eich
enw.
• Bydd yr UDA yn darllen, dadansoddi ac yn rhannu'r canlyniadau gyda'r rhanddeiliaid.
• Ni fydd yr UDA yn datgelu eich ymatebion unigol i'r ysgol nac i neb y tu allan i'r ysgol.
Yr unig amser y gallem rannu gwybodaeth â phobl eraill yw os oes gennym bryderon am
ddiogelwch dysgwyr.