Mae’r arolwg hwn i bawb sy’n ymwneud â chyflawni, comisiynu neu gefnogi gwaith iechyd creadigol yn y DU.
Os ydych chi angen yr arolwg mewn fformat gwahanol anfonwch neges i info@culturehealthandwellbeing.org.uk.
Mae hwn ar gyfer gwirfoddolwyr, gweithwyr llawrydd, pobl hunangyflogedig a phobl sy’n gyflogedig mewn sefydliadau.
Rydyn ni’n defnyddio ‘iechyd creadigol’ i olygu gwaith gyda chreadigrwydd, y celfyddydau a/neu ddiwylliant sy’n cefnogi iechyd a/neu lesiant. (Os nad ydych chi’n siŵr a yw eich gwaith yn addas gallwch weld llawer o
enghreifftiau eraill yma.)
Ceir dwy ran i’r arolwg:
- Rhan 1, sy’n ymwneud â’ch gwaith gydag iechyd creadigol
- Rhan 2, sef ffurflen Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Bydd eich holl gyfraniadau a’r wybodaeth a rannwch gyda ni’n ddienw. Ddylai’r holl arolwg ddim cymryd mwy na 30 munud i’w gwblhau.
Mae’r holl gwestiynau’n ddewisol ac rydyn ni’n croesawu eich ymatebion, cymaint ag y gallwch eu cwblhau. Efallai yr hoffech gael eich cyfrifon am y flwyddyn flaenorol wrth law ar gyfer y cwestiynau am incwm ac enillion.
Byddwn yn defnyddio eich ymatebion i’n helpu i eiriol dros eich gwaith a darparu mwy o adnoddau defnyddiol i chi (Gallwch ddarllen am
sut rydyn ni wedi defnyddio arolygon eraill yma.)