Pontio: Gwneud Cais i Fod yn Fentor
Diolch am ddangos diddordeb mewn bod yn fentor fel rhan o’r rhaglen Pontio.
Trwy lenwi’r ffurflen hon, rydych yn cynnig eich enw i gael eich paru â mentorai (mentee) ac i weithio gydag ef/hi i gefnogi eu datblygiad proffesiynol personol.
Os cewch eich paru’n llwyddiannus â mentorai, disgwylir i chi arwain y gwaith o drefnu cyfarfodydd, rhoi gwybod i dîm Pontio am gynnydd eich mentorai a chadw cofnod o’ch amser gyda’ch gilydd.
Fel rhan o brosiect Pontio, gall NoFit State gefnogi rhwng tair a chwe awr o amser mentora i bob mentorai. Telir £20 yr awr i’r mentoriaid.