Sefydlwyd Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru (PAS Cymru) i gofnodi darganfyddiadau
archeolegol a wnaed gan y cyhoedd er mwyn datblygu ein gwybodaeth am y gorffennol. Bu cynnydd cyson mewn darganfyddiadau trysor a gwrthrychau ers i'r cynllun cychwyn yn 1999 ac mae dros 63,000 o arteffactau wedi'u cofnodi ar ei gronfa ddata ar-lein.
Rydym ni, Ymgynghoriaeth Ruth Garnault, wedi cael ein penodi i werthuso strwythur, darpariaeth ac arian cyfredol PAS Cymru. Rydym yn gofyn am eich barn chi ar PAS Cymru. Bydd hyn yn ein helpu i ddatblygu opsiynau ar gyfer dyfodol y gwasanaeth.
Mae nodau PAS Cymru yn cynnwys sicrhau'r budd mwyaf i'r cyhoedd o henebion cludadwy;
hyrwyddo arferion gorau gyda darganfyddwyr, tirfeddianwyr ac amgueddfeydd; creu partneriaethau i
gynyddu ein dealltwriaeth o'r gorffennol; cefnogi'r Ddeddf Trysor; a chynyddu caffaeliadau
amgueddfeydd.
Mae PAS Cymru yn cael ei reoli gan Bwyllgor Cynghori, a'i ariannu gan Amgueddfa Cymru, Cadw ac Adran Y
Celfyddydau, Diwylliant a Chwaraeon Llywodraeth Cymru.
Mae amser yn brin i gynhyrchu'r adroddiad - byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech chi lenwi'r ffurflen hon erbyn 6 Gorffennaf. Gallwch lenwi'r ffurflen yn ddienw os dymunwch. Mae gwybodaeth diogelu data ar ddiwedd y ffurflen.
This survey is also available in English:
https://forms.gle/ZLcWyR85U4cEevUL6