Cyfle i chi ein helpu i ddiogelu a gwella afonydd Cymoedd de Cymru.
Mae Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru (SEWRT) yn elusen fach sy’n gweithio tuag at ddiogelu a gwella’r afonydd ar draws hen gymoedd diwydiannol de-ddwyrain Cymru. Gan weithio gyda gwirfoddolwyr a chymunedau lleol a sefydliadau natur eraill, ein nod yw gwella iechyd ein dyfrffyrdd a chreu buddiannau i bobl a natur fel ei gilydd.
Rydym wedi derbyn arian yn ddiweddar gan Gronfa Treftadaeth y Loteri er mwyn cyflawni’r prosiect Adfer Diogelu a Gwella Cwm Elái (RePrEEV) ac rydym yn awyddus i weithio gyda phobl a chymunedau sy’n defnyddio, yn byw ac yn gweithio ger yr afon Elái er mwyn cyfoethogi a meithrin cwm a dalgylch ffyniannus.
Yr arolwg hwn yw man cychwyn y gwaith hwnnw a gofynnwyd i chi gymryd rhan oherwydd bod gennych gysylltiad â dalgylch yr afon. Defnyddir y data a gesglir i hysbysu ein gwaith dros y ddwy flynedd nesaf a gallwch ddewis bod yn ddienw.
Diolch i chi am roi o’ch amser i helpu gyda’n gwaith i ddiogelu a gwella’r Afon Elái.
Mae gwybodaeth bellach am sut yr ydym yn defnyddio data a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) ar gael yn ein Polisi Preifatrwydd.