Eich Profiad Chi o GIG Cymru
Mae eich profiad chi o ofal yn bwysig i ni. Gallai hynny fod yn apwyntiad gyda’r meddyg
neu ymwelydd iechyd, yn arhosiad mewn ysbyty, yn ymweliad ag ysbyty fel claf allanol,
neu’n rhywbeth arall. Byddem yn ddiolchgar pe gallech lenwi’r holiadur yma, er mwyn i
ni ddeall eich profiadau yn well.
Mae’r cwestiynau yn seiliedig ar y pethau sydd bwysicaf i gleifion, yn eu barn nhw.
Byddwn yn holi cwestiynau am eich profiad mwyaf diweddar o ofal iechyd. Fe fyddem yn
ddiolchgar pe gallech roi atebion gonest.
Mae 4 ateb posib i’r rhan fwyaf o’r cwestiynau, ac rydym yn gofyn i chi roi tic wrth yr ateb
sy’n disgrifio orau sut rydych yn teimlo.
Mae rhai cwestiynau yn cynnwys yr opsiwn ‘Ddim yn berthnasol’. Ticiwch hwn os nad
ydy’r cwestiwn yn berthnasol i chi.
Does dim angen i ni wybod eich manylion personol, ond rydym yn gofyn rhai cwestiynau
cyffredinol amdanoch ar ddiwedd yr arolwg. Mae hynny er mwyn gwneud yn siŵr ein bod
yn gofyn i wahanol fathau o bobl am eu profiad.
Defnyddiwch y lle gwag ar ddiwedd yr arolwg i nodi unrhyw beth nad ydym wedi holi
amdano.
Os hoffech drafod yr holiadur hwn, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau amdano,
mae croeso i chi gysylltu â: