Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Kristin Luke ac Iwan Williams wedi bod yn cynnal gweithgareddau ar yr ystâd. Efallai eich bod wedi eu gweld yn gwneud gweithdai celf yn y fan, yn Nhŷ Llywelyn, neu yn eich cymdogaeth. Maent wedi bod yn darganfod beth sy'n unigryw am y bobl sy'n byw yn Nhre Cwm. Y nod yw creu gwaith celf gyda thrigolion Tre Cwm ar gyfer y Wal o amgylch yr ystâd.
Rydyn ni eisiau gwybod beth yw eich barn chi am brosiect Tre Cwm ac Mae'r Wal yn_. Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech dreulio tua 6 munud yn llenwi'r ffurflen hon. Gallwch wneud hyn yn ddienw. Ond byddem hefyd wrth ein boddau yn siarad efo rhai pobl yn fwy manwl: os ydych chi'n hapus i wneud hyn, gofynnwn am fanylion cyswllt ar ddiwedd y ffurflen hon.
Y dyddiad cau ar gyfer llenwi'r ffurflen yw dydd Llun 20fed Gorffennaf 2020.
If you want to fill in this form in English click here:
https://forms.gle/Knom9ZVaucndQRp49 Mae hwn yn brosiect Culture Action Llandudno (CALL) mewn partneriaeth â Chartrefi Conwy a Chartrefi Gogledd Cymru. Fe'i hariennir gan Sefydliad Paul Hamlyn. Gallwch ddarganfod mwy yma: www.thewallis.cymru
Mae Ruth Garnault a Gweni Llwyd yn helpu efo'r gwerthusiad hwn.
I ddiolch i chi am eich amser, bydden yn tynnu raffl ar ddiwedd y gwerthusiad. Y tair gwobr yw talebau siopa (vouchers) gwerth £30, £15 a £10. Mae'r gwobrau ar gyfer ymatebwyr sy'n byw ar ystâd Tre Cwm yn unig - cysylltir â chi trwy e-bost.