Holiadur Artistiaid - Hwb Treftadaeth a Chelf Dyffryn Nantlle // Artist Questionnaire - Dyffryn Nantlle Heritage and Art Hub
Ers cael dynodiad Statws Treftadaeth y Byd UNESCO mae awydd i weld cyfres o hybiau yn datblygu yn yr ardaloedd llechi, a'r bwriad gennym yw sefydlu Hwb Treftadaeth a Chelf i Ddyffryn Nantlle ym Mhenygroes. Bydd gan yr hwb ddwy elfen, un ar ochr dreftadaeth a hanes cymdeithasol yr ardal a’r llall ar ddatblygu gofod a stiwdios i artistiaid. Drwy’r holiadur yma rydym yn dymuno casglu gwybodaeth am yr angen, y gofynion a’r cyfyngiadau sydd gan artistiaid heddiw. Y gobaith yw bydd yr Hwb yn ateb y gofynion hynny drwy gynnig gofodau i artistiaid lleol am brisiau teg a rhesymol a rhoi lle iddynt arddangos eu gwaith; y bydd yn gaffaeliad i artistiad yr ardal, ac yn denu celfyddyd ac artistiaid i Ddyffryn Nantlle. // Since receiving the designation of UNESCO World Heritage Status, there has been a desire to see a series of hubs develop in the slate areas, and we intend to establish a Heritage and Arts Hub for Dyffryn Nantlle in Penygroes. The hub will have two aspects, one on the area's heritage and social history side and the other on developing spaces and studios for artists. Through this questionnaire we wish to gather information about the need, requirements and limitations that artists have today. The hope is that the Hub will meet those requirements by offering spaces to artists at fair and reasonable prices and giving them a place to display their work; to be an asset to the area's artists, and attract art and artists to Dyffryn Nantlle.