Teuluoedd a Gofalwyr
Fe hoffem ni ofyn ychydig o gwestiynau i chi, er mwyn dod i ddeall sut rydych chi’n defnyddio technoleg ar hyn o bryd.  Yn benodol, fe hoffem ni wybod beth rydych chi’n ei hoffi, beth nad ydych chi’n ei hoffi a sut yr hoffech chi ddefnyddio mwy ar dechnoleg pe gallech chi.  Ddylai hyn ddim cymryd mwy na 10 munud i chi.
Sign in to Google to save your progress. Learn more
Enw *
Rydw i’n byw yn... *
Ydych chi’n siarad Cymraeg? *
Pe byddech chi’n cael dewis cael technoleg yn y Gymraeg neu’r Saesneg, fyddech chi’n dewis ei gael yn y Gymraeg? *
Rydym yn gofyn hyn er mwyn ein helpu i ddatblygu cynllun technoleg sy’n ceisio gadael i bobl ddefnyddio’r Gymraeg os hoffen nhw wneud hynny. Fe wyddom ni na fydd popeth ar gael yn y Gymraeg o’r cychwyn, ond fe hoffem ni wneud beth allwn ni i fodloni’ch anghenion chi.
Cyn y coronafeirws, oeddech chi’n defnyddio technoleg i helpu gofalu am yr unigolyn rydych chi’n gofalu amdano? *
Os oeddech chi, ar gyfer pa fathau o bethau oeddech chi’n defnyddio technoleg?
Wnaethoch chi gychwyn defnyddio mwy ar dechnoleg yn ystod y cyfnod clo? *
Mae ‘defnyddio mwy ar dechnoleg’ yn golygu mwy nag oeddech chi’n ei wneud cyn y cyfnod clo.
Os gwnaethoch chi ddefnyddio mwy o dechnoleg yn ystod y cyfnod clo, pa fath o bethau wnaethoch chi gychwyn eu gwneud?
Nad oeddech chi’n eu gwneud cynt NEU rydych chi’n eu gwneud fwy rŵan nag oeddech chi cynt
Gan feddwl am yr unigolyn rydych chi’n gofalu amdano yn defnyddio technoleg, oes yna unrhyw beth rydych chi'n poeni amdano? *
Required
Pan fyddwch chi’n defnyddio technoleg newydd, pwy sy’n eich helpu chi i gychwyn arni? *
Required
Fel gofalwr, ydych chi’n meddwl eich bod wedi cael digon o gymorth i ddefnyddio technoleg? *
Pa fath o gymorth fyddech chi’n hoffi ei gael i ddefnyddio mwy ar dechnoleg? * *
Required
Os nad ydych chi'n defnyddio technoleg ar hyn o bryd, pam hynny?
O feddwl am dechnoleg, oes yna unrhyw beth y byddai gennych chi ddiddordeb mewn rhoi cynnig arno? *
Required
Oes yna unrhyw beth arall yr hoffech chi i ni feddwl amdano wrth i ni ddatblygu strategaeth dechnoleg ar gyfer y gwasanaeth Anableddau Dysgu yng Ngogledd Cymru?
Fyddech chi’n fodlon dweud mwy wrthym neu ein helpu wrth i ni ddatblygu hyn?
Clear selection
Os byddech, rhowch rif ffôn neu gyfeiriad e-bost y gallwn ei ddefnyddio i gysylltu â chi.
Dim ond i gysylltu â chi am y strategaeth dechnoleg ar gyfer y gwasanaeth Anableddau Dysgu y byddwn ni’n defnyddio’r manylion hyn.  Byddwn yn dileu eich manylion cyn gynted ag y bydd y strategaeth a’r dull wedi’u sefydlu.
Submit
Clear form
Never submit passwords through Google Forms.
This content is neither created nor endorsed by Google. Report Abuse - Terms of Service - Privacy Policy