MAPIO GWEITHGAREDDAU CELFYDDYDOL CYMRAEG
Fel rhan o uchelgais Cyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu gweledigaeth gynaliadwy ar gyfer y Gymraeg, mae’r Cyngor yn ymgymryd â phrosiect i fapio’r gweithgarwch celfyddydol yn y Gymraeg er mwyn creu darlun cyflawn a chyfredol o’r hyn sy’n digwydd yng Nghymru ben-baladr.
Pwrpas yr ymchwil hwn yw canfod y lefelau presennol o weithgarwch celfyddydol yn y Gymraeg sy'n digwydd ledled Cymru, gan ganolbwyntio ar weithgarwch nad yw'n cael ei ariannu ar hyn o bryd gan y Cyngor a rhoi argymhellion i’r Cyngor am y ffordd ymlaen yn unol â’i amcanion. Y gobaith yw bydd canfyddiadau’r gwaith hwn yn darparu sylfaen gadarn o wybodaeth y gellir adeiladu arno’n strategol at y dyfodol.
Bydd y wybodaeth a fydd yn cael ei chasglu yn arwain at argymhellion i Gyngor y Celfyddydau eu hystyried.
Gallai’r adroddiad terfynol gael ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Celfyddydau Cymru a'i rannu â phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol er mwyn gweithredu unrhyw argymhellion. Caiff pob dyfyniad ei gynnwys yn yr adroddiad yn ddienw.
Ticiwch y blychau isod i nodi eich caniatâd i'r wybodaeth yma gael ei chynnwys yn yr adroddiad ac i gynrychiolwyr y Cyngor gysylltu â chi i drafod gweithredu unrhyw argymhellion.
Bydd yr holl ddata personol, fel y'i diffinnir gan Ddeddf Diogelu Data 2018, yn cael ei brosesu yn unol â'n polisi preifatrwydd.