Arolwg Menter Ŵyn CFFI Cymru | Wales YFC Lamb Initiative Survey
***ENGLISH BELOW***
Annwyl Gynhyrchwr/Aelod CFFI
Mae Menter Ŵyn CFFI Cymru wedi bod yn cynyddu a chryfhau oddi ar ei lansio yn 2008. Mae’r bartneriaeth rhwng Sainsbury’s, Dunbia ac CFFI Cymru yn golygu bod modd buddsoddi yn nyfodol ein cynhyrchwyr a chadw Ffermwyr Ifanc Cymru ar flaen y diwydiant. Drwy gydweithio mewn partneriaeth , gallwn weithio er mwyn sicrhau dyfodol y fenter. Bellach, mewn partneriaeth gyda Sainsbury’s a CFFI Cymru, rydym yn adolygu ac yn creu Cynllun Gweithredu ar gyfer y fenter. Wrth reswm, rydych chi fel cynhyrchwyr/aelodau yn rhan greiddiol o’r fenter, ac o’r herwydd mae eich barn yn bwysig.
***
Dear Producer/ Wales YFC Member
The YFC Welsh Lamb initiative has been going from strength to strength since its launch in 2008. The partnership between Sainsbury’s, Dunbia and Wales YFC allows us to invest in the future of our producers keeping Wales Young Farmers at the forefront of the industry. By working in partnership, we can work to secure and sustain the future of the initiative. In partnership with Sainsbury’s and Wales YFC we are currently reviewing and creating a Action Plan for the initiative. Obviously, a large part of the initiative is you are suppliers/ members, and your opinions are an important part of this.