Galw am gyfraniadau: Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru 2023
Rydym yn croesawu cynigion ar gyfer sesiynau yn ein pedwaredd gynhadledd, i’w chynnal yn bersonol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Campws Llambed, ar 23-25 Tachwedd 2022.
Nod y Gynhadledd yw archwilio atebion ar gyfer bwyd, ffermio a byd natur, gan alluogi pawb i helpu i lunio dyfodol system fwyd Cymru.
Cynhelir y ddau ddiwrnod cyntaf ar y campws, a dydd Gwener 25 Tachwedd bydd teithiau maes i brosiectau lleol. Bydd sesiynau’r Brif Gynhadledd ar 23 a 24 Tachwedd yn rhedeg o 30 i 75 munud. Rydym yn croesawu gwahanol fformatau, gan gynnwys sesiynau siaradwyr, sgyrsiau, arddangosiadau a ffilmiau.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Medi 5, 2022. Hysbysir pob ymgeisydd trwy e-bost erbyn Hydref 3, 2022, os yw eu sesiwn wedi'i dderbyn. Gellir cyfuno neu ddiwygio sesiynau yn ôl disgresiwn pwyllgor trefnu’r Gynhadledd, yn amodol ar drafodaeth gyda’r Arweinydd ar y sesiwn arfaethedig.