Bydd y gronfa yma'n cefnogi ysgolion cynradd ac uwchradd fel bod modd iddyn nhw ddatblygu cyfleoedd chwaraeon allgyrsiol. Bydd hyn yn annog rhagor o blant i fod yn fwy heini yn fwy aml.
Caiff ysgolion cynradd wneud cais am hyd at £250 a chaiff ysgolion uwchradd wneud cais am hyd at £500.
Bydd angen i ysgolion lenwi Adroddiad Cwblhau Cynllun. Rhaid i ysgolion lenwi a dychwelyd yr adroddiad yma yn ystod y flwyddyn ysgol. Fydd dim hawl gan ysgolion i wneud cais am unrhyw gronfa ysgolion nes iddo fe gael ei gwblhau.
Cofiwch ystyried cynaliadwyedd prosiectau a phwysigrwydd gallu parhau ar ôl i'r cyllid gael ei wario.