Elusen genedlaethol o’r enw Social Farms and Gardens ydym ni, sy’n hyrwyddo tyfu yn y gymuned https://www.farmgarden.org.uk/cy/amdanom-ni
Ein gweledigaeth – cael pobl a chymunedau i gyrraedd eu llawn botensial drwy weithgareddau natur fel rhan o fywyd bob dydd.
Rydym yn dechrau prosiect newydd o’r enw Camau Gwyrdd i arwain cynulleidfaoedd newydd at dyfu cymunedol. Mae’n brosiect dan nawdd y Loteri sy’n canolbwyntio ar yr hinsawdd, a bydd yn cwmpasu cyfiawnder hinsawdd a gwytnwch cymunedol. Nod ein prosiect yw annog pobl o bob cwr o Gymru i gymryd eu camau cyntaf tuag at weithredu dros yr hinsawdd.
Mae gennym brosiectau i ysbrydoli aelodau ledled Cymru, gan gynnig sesiynau â chymorth pwrpasol i’ch grŵp yn ddi-dâl. Gallai’r rhain amrywio o daith syml o gwmpas gardd a the i ddilyn, i weithgareddau garddio, crefftau yn yr ardd, coginio a bwyta bwyd lleol, a llythrennedd carbon. Gall ein ‘hyrwyddwyr’ gyflwyno sesiynau hefyd i’ch cefnogi i ddechrau eich taith tyfu cymunedol eich hun ar eich safle chithau.
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn ymgysylltu â phobl sy'n perthyn i unrhyw un o'r categorïau canlynol:
- Dynion
- Aelwydydd incwm isel
- Cymry Cymraeg
- Pobl nad ydynt yn cymryd rhan weithredol mewn unrhyw weithgaredd cymdeithasol awyr agored
- Pobl â chyrhaeddiad addysgol isel
Os hoffech gael gwybod mwy, llenwch ein harolwg byr i’n helpu i ddeall pwy ydych chi, a sut y gallwn eich cefnogi i gael y gorau o’r prosiect.