Mae Rhaglen
Cyfnewid Staff Swits yn cynnig cyfle i staff technegol, gweinyddol, ac artistig
ar ddechrau eu gyrfa o sefydliadau sy’n aelodau gyfnewid gwybodaeth a chael
profiad drwy dreulio amser gyda sefydliad celfyddydol arall yng Nghymru. Mae’r
rhaglen yn hybu dysgu gan gymheiriaid, datblygu sgiliau, a gwydnwch y sector.