Rho dy farn i ni am dy ysgol.
Darllena bob brawddeg a thicio’r blwch sy'n disgrifio sut rwyt ti’n teimlo. Does dim unrhyw
atebion cywir nac anghywir. Ar gyfer rhai cwestiynau, byddi di’n cael cyfle i ddweud pam rwyt ti
wedi dewis yr ateb hwnnw, os wyt ti eisiau.
Meddylia am dy brofiadau dy hun ac nid am brofiad dy ffrindiau. Bydd yn onest os gweli di’n dda.
Mae dy farn yn bwysig. Byddwn ni’n darllen dy atebion ac yn eu defnyddio i ddysgu mwy am yr
ysgol.
Fydd dim enwau yn yr arolwg yma. Fyddwn ni ddim yn gofyn i ti roi dy enw. Mae hyn yn golygu
bod dy atebion i gyd yn gyfrinachol.
• Bydd y CADY yn darllen a dadansoddi dy atebion.
• Fydd y CADY byth yn dweud wrth neb yn dy ysgol na neb arall y tu allan i'r ysgol
beth rwyt ti’n ei ddweud
Yr unig amser y gallen ni rannu gwybodaeth â phobl eraill yw os ydyn ni’n poeni am ddiogelwch
disgyblion.