Llyfrgell Pethau: gallu benthyg eitemau ar gyfer y cartref, yr awyr agored neu’r ardd na ddefnyddir yn aml e.e. glanhawr stêm, trimer gwrych, rhaw ac ati, yn union fel yr ydych yn benthyg llyfr o lyfrgell draddodiadol
Caffi Trwsio: digwyddiad cymunedol lle gallwch ofyn i arbenigwyr drwsio pethau sydd wedi torri, a hefyd ddysgu sgiliau i’ch helpu i drwsio pethau eich hunain. Byddai hyn yn arbed taflu pethau y gellir eu trwsio’n weddol hawdd
Ailgylchu Cymunedol: ar gyfer pethau nad yw’r awdurdodau lleol yn eu casglu i’w hailgylchu e.e. pacedi creision, bagiau dal bwyd babanod, tiwbiau past danned ac ati
Cyfnewid Dillad: cyfnewid eitemau nad ydych yn eu gwisgo mwyach am rai fydd yn newydd i chi
Cynlluniau ail-lenwi: ap ail-lenwi sy’n cysylltu pobl â lleoedd lle gallant fwyta, yfed a siopa heb ddod ar draws pecynnu dibwrpas