For the registration form in English, please go to:
https://forms.gle/6Cx8pLz1sYB5MwT7AMewn partneriaeth â Chanolfan Cydweithredol Cymru, mae Clore Social Leadership, yn paratoi rhaglen datblygu arweinyddiaeth ar gyfer y trydydd sector yng Nghymru. Mae hon yn un o gyfres o raglenni datblygu arweinyddiaeth cenhedlaeth newydd a gynigir gan Clore Social Leadership. (
https://cloresocialleadership.org.uk)
Pan bydd yn cael ei gwireddu ddiwedd 2021, rydym yn disgwyl i’r rhaglen wasanaethu o leiaf 150 o arweinwyr yng Nghymru sy’n gweithio yn y trydydd sector ar wahanol gamau yn eu gyrfa; bydd ar gael i bob arweinydd ym mhob rhan o Gymru; caiff ei chynnal yn gyfan gwbl ar-lein ac ni fydd costau i’r cyfranogwyr.
Er mwyn helpu Clore Social i deilwra’r rhaglen at anghenion y trydydd sector yng Nghymru rydym yn cynnal cyfres o drafodaethau grŵp ffocws er mwyn dod i well dealltwriaeth o sut i ateb yr anghenion a’r heriau a wynebir gan arweinwyr y trydydd sector yma.
Bydd uchafswm o 20 o bobl ar gyfer pob grŵp ffocws unigol, gyda’r sesiynau yn para dim mwy na 90 munud.
Er mwyn ein galluogi i ddosrannu llefydd yn ôl y galw, dwedwch wrthym os gwelwch yn dda pa ddyddiadau ac amseroedd fyddai orau gennych, yn y gobaith y medrwn gynnig lle i chi yn y grŵp ffocws o’ch dewis.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ymchwil, cysylltwch â Carrie Cuno (
carrie@cloresocialleadership.org.uk) yn Clore Social Leadership.
GDPR a Chyfrinachedd
Bydd y data a gesglir yn y ffurflen hon yn cael ei storio’n ddiogel ar ein (Eva Trier Consulting Ltd) systemau am 6 mis ar ôl cwblhau’r ymchwil, a disgwylir i hynny fod ar 15/11/21.
Dyddiadau’r Digwyddiad: Ebrill 12, 13 + 14 2021
Fformat y Digwyddiad: ar-lein
Cysylltwch a ni ar
post@evatrier.co.ukGallwch chi helpu hefyd trwy gwblhau'r arolwg:
http://doo.vote/aca574f