Mae Impelo’n awyddus i gyflawni’r amcanion a’r ymrwymiadau a osodir yn ei bolisi ar gyfartaledd. Mae hyn yn cynnwys ymatal rhag cam-wahaniaethu dan Ddeddf Cyfartaledd 2010, a llunio delwedd fanwl gywir o wneuthuriad y gweithlu er mwyn hybu cyfartaledd ac amrywiaeth.
Mae ar y sefydliad angen eich cymorth a’ch cydweithrediad chi i’w alluogi i gyflawni hyn, ond gweithred wirfoddol yw llenwi’r ffurflen hon. Fe gedwir yr wybodaeth a roddwch chi’n gyfrinachol, a’i defnyddio i ddibenion monitro.
Os oes gennych chi gwestiynau i’w gofyn ynghylch y ffurflen, cysylltwch â
suzy@impelo.org.uk